Sianel / 27 Medi 2021

Uchafbwyntiau o ŵyl Diffusion 2019: Sain+Llun

Mae Trobwynt: Gŵyl Diffusion 2021 yn edrych tuag at ddyfodol ar ôl y pandemig drwy ddarparu model newydd o gydweithio, a phlatfform i leisiau artistig newydd a phrofiadau diwylliannol amrywiol. Yn ystod mis Hydref 2021 bydd digwyddiadau ffotograffiaeth a chelf ffotograffig, gweithdai a phrosiectau cymunedol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, ond bydd ganddynt gyrhaeddiad ac effaith rhyngwladol. Eleni, wedi’r llwyddiant a’r gwydnwch a ddangosodd y celfyddydau yn y byd rhithwir, bydd Gŵyl Diffusion 2021 yn cyfuno gwaith wedi ei gyd-greu a’i gyflwyno ar-lein ac yn ffisegol.

Rydym yn cyflwyno yma uchafbwyntiau o’r pedwerydd cynhyrchiad dwyflynyddol o wŷl Diffusion, a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2019: Sain+Llun, er mwyn pontio’r bwlch rhwng cynyrchiadau 2019 a 2021 o’r ŵyl, ac absenoldeb Gŵyl Diffusion yn 2020.

Roedd thema Diffusion 2019, Sain+Llun, yn archwilio’r berthynas rhwng sain a
cherddoriaeth, gyda ffotograffiaeth a chyfryngau lens. Un o’r pethau yr oedd yr ŵyl yn canolbwyntio arnyn nhw oedd y cymwysiadau diweddaraf sydd i Realiti Rhithwir, twf technolegau digidol, gan adeiladu ar gydweithrediadau rhwng artistiaid, cynhyrchwyr cyfryngau a chwmnïau sy’n gweithio yng Nghymru, y DU, Ewrop, Asia, Gogledd America a’r Dwyrain Canol.

Roedd X-Ray Audio, gosodwaith gan The Bureau of Lost Culture, yn adrodd stori
cymunedau beiddgar o smyglwyr yn yr Undeb Sofietaidd yn ystod cyfnod y rhyfel oer. Roedd yr Undeb Sofietaidd wedi gwahardd cerddoriaeth a chyfryngau Americanaidd rhag cael eu mewnforio. Yn hytrach na derbyn y gwaharddiadau llym yma, aeth y smyglwyr ati i ddefnyddio cerddoriaeth fel gwrthsafiad: drwy adeiladu peiriannau recordio cartref i wasgu jazz a roc a rôl Americanaidd ar hen ffilmiau pelydr-x oedd wedi eu taflu ymaith, oedd yna’n cael eu torri yn recordiau finyl wedi eu gwneud â llaw. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys digwyddiad byw, ble perfformiodd Gruff Rhys (Super Furry Animals) ddetholiad o ganeuon i’w torri’n fyw wedyn ar record pelydr-x.

Turiodd y cyfansoddwr ac artist sain nodedig John Rea yn archif sain Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i greu ei osodiad clyweledol Atgyfodi. Cafodd y delweddau, rhai y daethar eu traws a rhai a ffilmiwyd yn arbennig, eu gosod mewn collage gyda chyfansoddiad amgylchsain o gerddoriaeth gyfoes a recordiadau maes gwreiddiol a wnaed mewn lleoliadau, ac o bobl, o bwysigrwydd eiconig a symbolaidd, er enghraifft adeiladau hanesyddol gwreiddiol yr Amgueddfa.

Ysbrydolwyd Atgyfodi gan draddodiad cerddorol sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn yng Nghymru, o ganeuon a straeon yn cael eu rhannu ar lafar gan bobl go iawn. Mae gwead a sain y bywydau hynny wedi dylanwadu ar arddull gyfansoddiadol y gerddoriaeth: gyda’r alawon, naws gerddorol a barddoniaeth y gair llafar yn arwain y broses. Yn fwriadol felly roedd y cyfansoddiad yn gadael lle i gerddorion cyfoes ail-ddehongli a byrfyfyrio, er parch at yr hen draddodiadau. Roedd y gosodwaith yn ymdrech ar y cyd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gydag offerynnau traddodiadol y crwth, y pibgorn a’r ffidil a’r chwiban yn cael eu perfformio gan Cass Meurig a Patrick Rimes. Cynorthwyodd Huw Talfryn Walters gyda’r delweddau llonydd a’r rhai gafodd eu ffilmio. Cyflwynwyd y gwaith gorffenedig fel rhodd i archif Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Roedd The Coal Face gan Richard Jones yn astudiaeth o’r diwydiant glofaol yng Nghymru, drwy wynebau ac ymddangosiad y gweithlu. Ar un adeg roedd Cymru’n arwain y byd o ran cynhyrchu glo gyda thros 600 o byllau glo yn Ne Cymru ei hun. Erbyn heddiw, mae pob arwydd bron â bod o’n hanes diweddar wedi ei ddileu, gyda bron pob un o’r pyllau glo wedi eu dinistrio. Mae trefi’r cymoedd a’r gweithlu sy’n byw yno yn gysgod o’u gorffennol fu unwaith yn llewyrchus. I Richard Jones, wynebau’r dynion yma a’u hanesion yw’r allwedd i’n gorffennol diwydiannol.

Eisteddodd glowyr o byllau’r Rhondda, Rhymni, Taf ac Ebwy ar gyfer y sesiynau hir yn y stiwdio oedd yn angenrheidiol i greu’r portreadau 3-D, oedd yn cynnwys 200+ o ddelweddau wedi eu cymryd ar gamerâu tra-eglur i fapio wynebau’r modelau, cyn cael eu bwydo i’r feddalwedd ffotogrametraeth sydd yn gweithio i greu’r delweddau 3D terfynol. Ochr yn ochr â’r delweddau cafwyd seinwedd John Rea, gyda recordiadau o leisiau’r glowyr a recordiadau maes gwreiddiol o’r ardaloedd yma yr oedd y dynion yn eu galw’n gartref.

Ac yn olaf, uchafbwynt cyffrous arall o ŵyl Diffusion 2019 oedd arddangosfa gan y
cyfarwyddwr ffilm o’ r Ffindir, Jonna Kina: Foley Objects. Ar gyfer y gosodwaith, casglodd Jonna Kina wrthrychau yr oedd gwahanol artistiaid foley a dylunwyr sain wedi eu defnyddio i greu effeithiau sain ar gyfer ffilmiau. Roedd Foley Objects yn gasgliad anarferol a doniol o ddelweddau fel archif ffotograffig o synau, ac fel troad eironig rhwng dogfennaeth a chwarëusrwydd absẃrd. Er enghraifft, wyddoch chi fod modd defnyddio rholyn o dunffoil i ail-greu sŵn tân?

Bydd gwaith diweddaraf John Rea, Parade, a <Truth DeQay> gan Richard Jones yn cael eu harddangos yng Ngŵyl Diffusion 2021.