Sianel / 16 Hyd 2021

Diffusion in a Day/Weekend!

Trwy gydol mis Hydref, mae Trobwynt: Gŵyl Diffusion 2021 yn cynnal arddangosfeydd ledled Caerdydd a Chasnewydd, heb sôn am ddigwyddiadau fel sgyrsiau a dangos ffilmiau — mae llawer i’w fwynhau! Ydych chi’n cael trafferth rhoi cynllun at ei gilydd ar gyfer ymweld â’r safleoedd a’r mannau meddiannu? Darllenwch ymlaen – rydym wedi paratoi arweiniad defnyddiol i’ch helpu i brofi rhywfaint o’r pethau sydd gan Ŵyl Diffusion i’w cynnig mewn un penwythnos. Mynnwch eich map o Ŵyl Diffusion a rhowch eich esgidiau cerdded!

Diwrnod 1 — Caerdydd

Gadewch i ni ddechrau ym Mhencadlys Ffotogallery (1) ar Fanny Street yn Cathays! Dyma le’r ydym yn arddangos More Than a Number sy’n rhan o gyfres Ffotograffiaeth ac Affrica Ffotogallery, sy’n ceisio archwilio’r ffordd y meddyliwn am Affrica fel gwlad wedi ei dal rhwng moderniaeth a thraddodiad, a sut mae gwahanol ddiwylliannau’n gallu cynhyrchu ystyr drwy luniau. Mwynhewch gelfyddyd gan 12 o bobl greadigol o wahanol leoliadau yn Affrica, cyn cerdded i lawr Fanny Street i Deras Cathays.

Ar Deras Cathays gallwch brofi tri o’n mannau meddiannu mewn cydweithrediad â JackArts, Yn gyntaf, mae gennym Holding On gan Lydia Panas (A) ar gornel Teras Cathays a Corbett Rd. Yna wrth gerdded i lawr Ffordd Senghennydd, yn agosach at Orsaf Drenau Cathays byddwch yn gweld Christopher Street 1976 gan Sunil Gupta (B), ac yn dilyn hynny Tin Works gan Hilary Powell (C) ar gornel Corbett Road a St. Andrew’s Place. O’r fan honno gallwch gerdded i Bont Ffordd Casnewydd, safle Marchnad Ganolog Caerdydd (D) Paul John Roberts, cyn mynd i’r safle nesaf – Arcêd y Frenhines (2).

Yn Arcêd y Frenhines gallwch dreulio ychydig o amser yn mwynhau ac yn dathlu celf queer gan Sunil Gupta ac Allie Crewe, yn ogystal â phrofi ‘The Iris Club’ sy’n dangos ffilmiau byr gan wneuthurwyr ffilmiau LGBTQIA+ yn ogystal ag ‘awr lawen’ a digwyddiadau byw drwy ein cydweithrediad â Gwobr Iris. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar wefan Gwobr Iris i gael holl fanylion eu rhaglen 2021 — mae ganddyn nhw ddigwyddiadau mewn safleoedd drwy Gaerdydd gyfan, yn cynnwys Prifysgol De Cymru a Chanolfan Gelfydyddau Chapter!

Ar lawr uchaf ein safle Arcêd y Frenhines gallwch chi weld arddangosfa gyntaf Nik Roche mewn dau ran, The Budgie Died Instantly/It’s Hard to Report a Stolen Bike, Stolen. Gallwch ddysgu am Ŵyl Prydain sy’n cyflwyno iwtopia drwy Lions & Unicorns gan John Crerar a Motherland Maryam Wahid — archwiliad agos-i-gartref o bobl wasgaredig o Bacistan.

O Arcêd y Frenhines, gallwch fynd drwy’r ganolfan siopa i’n safle yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant (3), gerllaw The Apple Store, lle mae digonedd o gelfyddyd i chi ei mwynhau ac ymgolli ynddi! Mae’n cynnwys Truth in Fire Tim Georgeson, sef ymateb i’r tannau gwyllt catastroffig a ddinistriodd Arfordir De-ddwyreiniol Awstralia yn haf 2019-20. Dyma lle mae Holding On Lydia Panas yn cael ei arddangos, ochr yn ochr â Natura Consonat gan Mary Farmilant, <Truth DeQay> gan Richard Jones, ac I’m afraid of violence, but I’ve often submitted to it gan Gareth Phillips. Ond mae mwy na hynny! Mae arddangosfeydd grŵp gan The Ink Collective, UCan Productions, ac RNIB Cymru sydd wedi ymuno â Sight Life a Ffotogallery. Mae UCan Productions, RNIB and Sight Life yn galluogi artistiaid a phobl greadigol Ddall a Rhannol Ddall i rannu ac arddangos eu celf. Gwelwch wefan Diffusion i gael holl fanylion yr arddangosfa.

Ewch allan o Dewi Sant i Churchill Way i weld ein safle feddiannu JackArts er mwyn mwynhau Where’s My Space (E), sef arddangosfa ddigidol yn arddangos gwaith gan Abby Poulson, Chelagat a Gilbert Sabiti. O’r fan honno ewch i’r safle meddiannu nesaf ar Adam Street (F) i weld y poster mawr am Truth in Fire Tim Georgeson, y tu allan i’r Arena Motorpoint. Ar gornel Rhodfa Lloyd George a Stryd Herbert mae’r man meddiannu ar gyfer Atomic Ed gan Janire Najera (G) — sef yr un arddangosfa ag sydd yn y lleoliad nesaf hefyd ar Ffordd Penarth, CultVR! (4) Mae Atomic Ed yn adrodd stori gwyddonydd niwclear a drodd yn ymgyrchwr gwrth-niwclear, Ed Grothus, oedd wedi gweithio yn Labordy Los Alamos lle datblygwyd y bomiau atomig a ddefnyddiwyd yn Hiroshima a Nagasaki. Mae’r prosiect hwn yn addo bod yn un y gallwch ymgolli’n llwyr ynddo, gyda setiau pen realiti rhithwir ac arddangosfeydd rhyngweithiol, archifol.

Yn olaf, ond cyn bwysiced â’r gweddill bob tamaid, mae ein man meddiannu olaf gyda JackArts ar Clare Road (H). Ewch draw i weld y poster mawr yn dathlu More Than a Number: yr arddangosfa lle’r oeddech wedi dechrau’r diwrnod cyfan yn Ffotogallery!

Peidiwch ag anghofio cael digon i’w fwyta a’i yfed drwy gydol y dydd! Os bydd cerdded yn ormod i chi, yna efallai y byddai’n ddiwrnod perffaith i gymryd beic Ovo allan am reid. Mae hefyd ddigonedd o opsiynau cludiant cyhoeddus — gwelwch Wefan Bws Caerdydd i gael yr holl amserlenni. Gallwch deithio i rai safleoedd ar y trên: ewch i weld Safle Bayart ym Mae Caerdydd (5) drwy gerdded neu gymryd trên i’r orsaf gerllaw!

Diwrnod 2 — Casnewydd

Diwrnod newydd a dinas wahanol yn llawn o gelfyddyd! Os ydych chi’n cyrraedd Casnewydd o Gaerdydd yna efallai y byddwch yn cychwyn yng ngorsaf drenau Casnewydd. O’r orsaf gallwch fynd draw i arddangosfa gyntaf y diwrnod: dangosiad cyhoeddus ar Commercial St o Women of Newport Jamila Jarczak (6). O’r fan honno, mae ein safle Friars Walk (7) rownd y gornel: cartref arddangosfeydd grŵp Nifer o Leisiau, Un Ddinas (Uned 1) a Newport/Lab (Uned 2). Yn Uned 1 gallwch ddisgwyl gweld gwaith gan bobl adnabyddus a rheolaidd Casnewydd, Ron McCormick, John Rea a Huw Taffryn Walters (ac mae Uned 2 yn brolio gwaith gan Clémentine Schneidermann, Lua Ribeira, a llawer iawn mwy!)

Y safle agosaf, gerllaw Friars Walk, yw tafarn y Red Lion (9), ar gornel Charles St a Stow Hill. Beth am gael peint a sgwrs gyda’r bobl leol yn un o’r ychydig dafarnau traddodiadol sydd ar ôl yng Nghasnewydd, a gweld arddangosfa Last Orders Ron McCormick? Efallai y gwelwch chi Ron yno hyd yn oed! Yna gallwch fynd yn eich blaen i lawr Stow Hill i gyrraedd CWTSH (10).

Mae CWTSH yn llyfrgell wych, yn ogystal â chanolfan gelfyddydau ac adnoddau cymunedol lle mae gwersi ysgrifennu creadigol ac hefyd ddigwyddiadau meic agored! Gallwch bori drwy eu casgliad o lyfrau wrth grwydro drwy Devotees of Rock. Tynnwyd yr holl luniau gan Paul Adrian Davies, o gefnogwyr roc a phync y cyfarfu â nhw dros y blynyddoedd.

Yn olaf, ewch o amgych Barnabas Arts House (8) ar Stryd New Ruperra, gerllaw George St. Gydol mis Hydref mae Barnabas Arts House yn gartref i brosiectau sydd â sail gymunedol, fel stiwdio bortreadau dros dro wedi ei chyflwyno gan Rhys Webber a Fez Miah. Mae Antonia Osuji a Maryam Wahid yn arwain gweithdai gyda Coffee & Laughs, sef elusen a grŵp cyfeillgarwch i ferched o bob oed, ffydd a diwylliant. Cymerwch ran drwy gael tynnu eich portread ar gyfer arddangosfa, neu beth am ymuno â’r grŵp Coffee & Laughs? Pan fyddwch chi’n barod, mae’n hawdd cerdded yn ôl i Ganol Dinas Casnewydd drwy gerdded yn ôl i fyny Commercial St.

A dyna ni! Tagiwch Ffotogallery a’r Ŵyl Diffusion os gwelwch yn dda mewn unrhyw luniau a dynnwch yn ein safleoedd, digwyddiadau a mannau meddiannu! I gael unrhyw fanylion am yr arddangosfeydd a digwyddiadau, ewch i’n gwefan os gwelwch yn dda.