Sianel / 26 Tach 2021

Where's My Space Taith Rithwir

Where's My Space Taith Rithwir

Taith Rithwir

Where's My Space?

Various Artists

Ymchwilio

Ledled y byd, oherwydd y pandemig mae canolfannau celfyddydol a diwylliannol wedi gorfod cau am gyfnodau maith - y mannau lle’r ydym yn dod at ein gilydd, fel canolfannau celfyddydau, clybiau ieuenctid, canolfannau cymunedol, neuaddau dawns a theatrau. Mae’r pandemig hefyd wedi cyfyngu ar ein rhyddid i ymgasglu a sgwrsio mewn mannau cyhoeddus, caffis, bariau a hyd yn oed yn ein cartrefi ein hunain; mannau a llefydd lle’r oeddem yn rhannu straeon a chymdeithasu gyda theulu a ffrindiau. Ym myd y celfyddydau, bu’n rhaid inni greu cyfleoedd eraill i gymdeithasu, perfformio, arddangos, cyfnewid a rhannu mewn mannau rhithwir.

Mae Where’s My Space? yn brosiect digidol cydweithredol sydd wedi dod â dau sefydliad at ei gilydd – y naill o Genia, sef PAWA254, a’r llall o Gymru, sef Ffotogallery. Gyda’i gilydd maent wedi creu man cyfarfod rhithiol, neu ‘Base Noma’ (â rhoi iddo’i enw Ceniaidd), lle daeth pobl ifanc greadigol o’r ddwy wlad bartner at ei gilydd i gydweithio i gynllunio a datblygu gofod unigryw ar gyfer adrodd straeon gweledol. Rhoddodd y prosiect gyfle i ddau sefydliad diwylliannol deinamig gydweithio i gynllunio a datblygu gofod unigryw ar gyfer adrodd straeon gweledol yn ogystal â chysylltu pobl ifanc greadigol o Genia a Chymru.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda phedwar o bobl greadigol blaengar ac arloesol, dau o Gymru a dau o Genia, yn ogystal â myfyriwr ar ei bedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a fu’n gyfrifol am y gwaith dylunio 3D a gwireddu gweledigaeth bensaernïol Where’s My Space?

Mae Nancy Cherwon, a adnabyddir hefyd fel Chela, yn beintiwr, artist graffiti a darlunydd o Genia. Prif themâu ei gwaith yw diwylliant, ysbrydegaeth a hunaniaeth. Mae hi’n defnyddio symboliaeth, lliw a phatrymau i osod y cywair ar gyfer pob paentiad. Mae Gufy yn fardd ac artist gair llafar, sinematograffydd a ffotograffydd o Genia. Artist ffotograffig a gafodd ei geni a’i magu yn Sir Gaerfyrddin yng ngorllewin Cymru yw Abby Poulson. Mae ei gwaith yn archwilio syniadau am ei mamwlad, yn ogystal ag ymateb i hunaniaeth Gymreig, pryderon amgylcheddol, y gwledig, y cof a naws am le. Mae Gilbert Sabiti yn artist a darlunydd sy’n defnyddio’i waith yn bennaf i ymchwilio i’w dreftadaeth Rwandaidd a Phrydeinig a’i brofiadau fel dyn du’n tyfu i fyny ym Mhrydain; mae llawer o’i waith yn ymddangos mewn e-gyhoeddiadau lle mae’n defnyddio cyfryngau golygyddol, technegau darluniadu a theip i greu cynnwys. Bu ein dylunydd/pensaer 3D, James yn defnyddio meddalwedd SkethchUp a Vray i wireddu gweledigaeth bensaernïol y gwahanol fannau rhithwir yn ogystal â chreu’r cyfleadau terfynnol. Cafodd y delweddau panoramig o’r cyfleadau hynny eu pwytho at ei gilydd a’u troi’n vista 3D i greu’r gofod rhithwir gorffenedig gan ddylunydd llawrydd Ffotogallery, Oliver Norcott. Cafodd y prosiect ei guradu gan Cynthia MaiWa Sitei, Cynhyrchydd Creadigol yn Ffotogallery Cymru a Njeri Mwangi, Cyd-sylfaenydd menter PAWA ac Arweinwyr Prosiectau Arbennig PAWA254.

O ran y pedwar artist, nid oedd unrhyw ffiniau creadigol i’r prosiect yma; ac fe gymeron nhw fantais lawn o hynny drwy wthio eu hunain i adfeddiannu ac ail- ddychmygu’r mannau sy’n eu cynrychioli nhw, eu hunaniaeth, eu hymarfer a’u bodolaeth.