Sianel / 7 Chwef 2022

Maryam Wahid and Coffee & Laughs

​Mae Maryam Wahid (g. 1995) yn artist gwobrwyol. Gan ddefnyddio celfyddyd ffotograffiaeth mae gwaith Wahid yn fywgraffiadol ac yn archwilio ei hunaniaeth fel menyw Fwslimaidd Pacistanaidd Brydeinig.

Daeth Maryam ar draws merched Coffee and Laughs y tro cyntaf pan ddaethant i weld ei harddangosfa solo yn Ffotogallery, Caerdydd. Mi wnaethon nhw rannu straeon ac archwilio hanesion unigol a chyfunol wrth i Maryam ddod i’w hadnabod yn well a, ynghyd â Maryam, fe aethant ymlaen i gynllunio eu portreadau eu hunain: beth oeddent am wisgo, os oeddent am gynnwys ffotograffau o’r teulu a sut hoffant gael eu cynrychioli, eu gweld a’u cofio. Yna trefnodd Maryam y sesiynau tynnu llun gyda’r grŵp i osod a chipio’r portreadau yr oedden nhw wedi eu cynllunio.

Mae’r portreadau a grëwyd yn helpu i adrodd hanes y menywod: eu cefndiroedd, teuluoedd, llwyddiannau a phrofiadau. Maent yn bersonol ac yn ddadlennol gan gynnig mewnwelediad i sut mae’r menywod yma am gael eu gweld gan y bobl o’u hamgylch. Wrth weithio ar y prosiect lluniwyd sawl cyfeillgarwch, ac roedd hi’n fraint i bawb gymerodd ran gael gwrando ar y straeon a rannwyd.