Sianel / 22 Chwef 2022

Post-Event Report on Turning Point - Diffusion 2021

Cafodd pumed gŵyl eilflwydd Diffusion ei chynnal ar adeg pan oedd y celfyddydau’n dod allan o effeithiau gwaethaf y pandemig, ac roedd angen i gynlluniau Ffotogallery ystyried trefniadau wrth gefn rhag ofn na fyddai digwyddiadau ac arddangosfeydd ffisegol yn bosibl. Roedd pwyslais cynyddol ar weithgareddau ar y tir cyhoeddus, yn enwedig yng Nghaerdydd a Chasnewydd, a llai o bwyslais ar safleoedd ffisegol ar gyfer arddangosfeydd, er bod llawer ohonyn nhw’n unedau mwy oedd yn gallu dangos gwaith mwy o artistiaid a chynnal mwy o weithdai a digwyddiadau cyfranogol. Roedd yn rhaid i ni fod yn arloesol o ran y gwaith roedden ni’n ei ddangos, ymhle roedden ni’n ei ddangos, a’r ffocws ar adeiladu partneriaethau newydd mewn gwahanol gymunedau. Er gwaethaf y cyfyngiadau hynny, llwyddwyd i gyflwyno gwaith gan fwy na 60 o artistiaid o bum cyfandir, gan fynd i’r afael yn dda â’n hymrwymiad i sicrhau amrywiaeth, cynhwysiad a datblygiad artistiaid ac arferion celfyddydol yng Nghymru.

Ar gyfer y Diffusion hwn, ffurfiodd Ffotogallery bartneriaeth ag amrywiaeth eang o bartneriaid lleol, rhanbarthol a rhyngwladol i gyd-ddyfeisio a darparu tymor o arddangosfeydd, digwyddiadau’r ŵyl a phrosiectau ymgysylltu cyhoeddus oedd yn dwyn ynghyd waith lens a ffotograffiaeth gyfoes rhagorol o bob cwr o’r byd ac arddangos cyrff cyffrous newydd o waith a ddatblygwyd yng Nghymru. Roedd canolbwynt y gweithgareddau yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ac roedd teithiau Diffusion a’r gweithgareddau allgymorth yn estyn allan i Lanelli, Tyddewi a Bro Morgannwg. Ymhellach i ffwrdd, roeddem yn cyflwyno ‘Go Home Polish’ gan Michal Iwanowski yn Fotosommer Stuttgart, yn rhan o fenter Cymru yn yr Almaen 2021.

Cawsom 49,508 o ymwelwyr unigryw yn ein harddangosfeydd a’n digwyddiadau (a 1.9 miliwn pellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y tir cyhoeddus). Rhoesom 65 o weithdai a sesiynau ymgysylltu gyda 4129 o gyfranogwyr.

Thema’r ŵyl oedd Trobwynt – “adeg pan mae newid tyngedfennol yn digwydd mewn sefyllfa, yn enwedig un â chanlyniadau buddiol”. Mae cyfnodau o ansicrwydd yn aml yn darparu’r momentwm ar gyfer newid cadarnhaol. Roedd llesiant, gwytnwch, mynediad a chynhwysiant, cyfiawnder cymdeithasol, cydlyniad cymunedol a chyfrifoldeb amgylcheddol yn llinynnau oedd yn cydblethu drwy’r prosiect ac a arweiniodd ein partneriaethau a’n penderfyniadau ynghylch y rhaglenni.

Yn ogystal ag arddangosfeydd a digwyddiadau i ddathlu gallu ffotograffiaeth a’r ddelwedd ddigidol i gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol ac ennyn eu diddordeb, roedd Diffusion yn arddangos y defnyddiau mwyaf diweddar o dechnolegau ymgolli digidol, ac yn adeiladu ar gysylltiadau cydweithio rhwng artistiaid o Gymru, cynhyrchwyr cyfryngau a chwmnïau sy’n gweithio’n rhyngwladol yn Ewrop, America, India, Awstralia ac Affrica.

Rhoddwyd comisiynau i artistiaid o Gymru ac artistiaid oedd wedi eu seilio yng Nghymru – John Crerar, Hilary Powell, Janire Najera, Gareth Phillips, Abby Poulson, Rhys Webber, Kamila Jarczak, Antonia Osuji, Fez Miah, Dilip Sinha, Justin Teddy Cliffe, Sarah Goodey ac Anna Sellen (the Ink Collective) i archwilio hunaniaeth a phrofiad cyfoes o Gymru a chawsom gyfle i ddangos gwaith newydd cyffrous am y tro cyntaf gan Joao Saramago a Richard Jones, Black Mantis, Huw Davies a Sebastian Bustamante.

Trwy bartneru â’r prosiect Pharmabees a Greener Cathays aethom ati i archwilio ffyrdd o ddatblygu mwy o fioamrywiaeth mewn mannau trefol, gyda’r Amgueddfa Genedlaethol ac Oriel y Parc, i archwilio gwell rheolaeth ar dir a môr. Buom yn gweithio’n agos ag Iris a’r gymuned LHDT+ yng Nghymru, a gydag ysgolion, prifysgolion, canolfannau cymunedol a grwpiau celfyddydau yng Nghasnewydd a Chaerdydd yn archwilio materion yn ymwneud â chyfrifoldeb amgylcheddol, amrywiaeth a hunaniaeth.

Yn unol â’r themâu uchod, aethom ati i ddarparu gwaith rhyngwladol cyffrous ar y cyd â Chennai Photo Biennale, PAWA254 yn Kenya, Fotosommer yn yr Almaen, artist sy’n Awstraliad Cenhedlaeth Gyntaf – Tim Georgeson, a'r artistiaid o Ogledd America Mary Farmilant a Lydia Panas. Roedd yr arddangosfa More Than a Number, dan ofalaeth Cynhyrchydd Creadigol Ffotogallery, Cynthia Sitei, yn dangos gwaith 12 o ffotograffwyr eithriadol o leoliadau ledled Affrica.