Sianel / 19 Tach 2021

Imagining the Nation State - Meet the Artists

Yn 2020, aeth Sefydliad Chennai Photo Biennale ati, mewn cydweithrediad â Ffotogallery/Gŵyl Diffusion, a gyda chefnogaeth British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, i lansio Galwad Agored am grant er mwyn i ffotograffwyr ac artistiaid y lens preswyl o India a Chymru allu cyflwyno cynigion ar y thema – Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth.

Adolygwyd a detholwyd y ceisiadau gan reithgor nodedig o artistiaid a churaduron - Monica Narula, Raqs Media Collective a Sheba Chhachhi o India, a Damarice Amao – Curadur Cynorthwyol Ffotograffiaeth, Centre Pompidou o Ffrainc ynghyd â’r trefnwyr, Shuchi Kapoor o Sefydliad Chennai Photo Biennale a David Drake o Ffotogallery/Diffusion, Cymru.

Canlyniad y cydweithredu hwn rhwng Sefydliad CPB a Ffotogallery oedd cyfanswm o bum dyfarniad grant yn lle’r pedwar a gynlluniwyd yn wreiddiol, i alluogi i ffotograffwyr/artistiaid y lens gynhyrchu gwaith ar eu prosiectau arfaethedig – prosiectau a dderbyniodd eu harddangosfa ffisegol gyntaf ym mis Hydref 2021 yn rhan o bumed gŵyl eilflwydd Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru.