Sianel / 8 Hyd 2021

Meddiannu Byrddau Posteri

Wrth i chi gerdded strydoedd Caerdydd a Chasnewydd ar eich ffordd adref o’r gwaith neu wrth fynd i gwrdd â chyfeillion am goffi, efallai y gwelwch chi ein posteri ar gyfer Gŵyl Diffusion, a fydd yn arwydd bod y dinasoedd yn cael eu meddiannu mewn cydweithrediad â Jack Arts.

Mae Jack Arts yn credu mewn hyrwyddo’r celfyddydau mewn mannau dinesig amrywiol a chymdeithasol. Maen nhw’n gweithio gydag orielau a sefydliadau celfyddydau fel Ffotogallery i wneud strydoedd dinasoedd yn ganfas ar gyfer arddangos celf sy’n ymgysylltu â’r cymunedau y maen nhw’n ynddynt. Er enghraifft, roedden nhw’n gweithio’n ddiweddar mewn cydweithrediad â Faber a Waterstones, i ddarparu ymgyrch stryd ar gyfer llyfr newydd Sally Rooney Beautiful World, Where Are You!



Efallai y byddwch yn pasio ein byrddau posteri enfawr sy’n tynnu sylw at arddangosfeydd ar draws ein hamrywiol safleoedd arddangos yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Mae hwn (uchod) yn dangos gwaith gan Dipanwita Saha a Tarun Bhartiya, sydd â chelfyddyd yn arddangos ar hyn o bryd yn BayArt, yn rhan o’r arddangosfa Imagining the Nation State, sef sioe grŵp gan artistiaid o’r DU ac India. Yn dangos hefyd mae celf o gyfraniad Wafaa Samir i’r arddangosfa More Than a Number ym mhencadlys Ffotogallery yn Cathays; hunanbortread o arddangosfa Motherland Maryam Wahid sydd yn safle Arcêd y Frenhines erbyn hyn; a chynnig Chelagat yn rhan o’r arddangosfa grŵp Where’s My Space y gallwch ei brofi ar-lein!



Ydych chi wedi gweld y posteri hyn ar gyfer y Wobr Iris o amgylch y dref? Mae’r Wobr Iris yn ŵyl deithiol o ffilmiau LGBTQIA+, ac yn ddathliad o gelf weledol queer. Rydym yn cynnal y ‘Clwb Iris’ ar lawr 1af safle’ Arcêd y Frenhines, ochr yn ochr ag arddangosfeydd gan Sunil Gupta ac Allie Crewe. Rydym yn hynod o hapus bod y llawr wedi ei neilltuo i gelfyddyd queer! Mae gan y Wobr Iris hefyd ddigwyddiadau yn cynnwys nodweddion, dangosiadau, trafodaethau a rhagor mewn amrywiol safleoedd ledled Caerdydd, yn cynnwys Canolfan Gelfyddydau Chapter a Sinemâu Premier. Ewch i’w gwefan i weld eu rhaglen gyfan ar gyfer 2021.



Ydych chi wedi bod i weld arddangosfa Atomic Ed Janire Najera eto? Mae’n cael ei chynnal yn CultVR, ac mae’n dadorchuddio ac yn dogfennu taith Ed Grothus, o weithio fel gwyddonydd niwclear yn labordy Los Alamos — lle datblygwyd arfau atomig a ddefnyddiwyd yn Hiroshima a Nagasaki — yn New Mexico, i ddod yn ymgyrchydd gwrth-niwclear di-flewyn-ar-dafod. Mae gan yr arddangosfa elfennau anhygoel o niferus i ymgolli ynddynt, gan gynnwys gwaith clyweled, gosodwaith realiti rhithiol a dogfennaeth archifol! Mae CultVR hefyd yn cynnig perfformiad gwych gan y band Black Mantis ar 15 Hydref yn rhan o Ŵyl Diffusion 2021.

Dim ond cyflwyniad yw hyn i’r meddiannu gan Jack Arts yn y ddinas. Os byddwch yn gweld unrhyw rai o’n posteri Trobwynt: Gŵyl Diffusion 2021 ar eich taith, tynnwch lun a’n tagio ni ynddo!