Ynglŷn â

Ynglŷn â

Gŵyl mis o hyd gydag arddangosfeydd, trafodaethau, dangosiadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn gofodau a llefydd go iawn a rhithwir.

Diffusion

Diffusion 2021 yw’r bumed mewn cyfres o wyliau a gynhelir gennym bob yn eilflwydd. Yn ystod yr ŵyl byddwn yn cyflwyno rhaglen o arddangosfeydd, ymyriadau, sgriniadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn pob math o fannau a lleoliadau go iawn a rhithwyr. Yn ogystal â’r cynnwrf o gyfrannu’n uniongyrchol i’r ŵyl a bod yn rhan o ddigwyddiad â chyrhaeddiad rhyngwladol, mae Diffusion 2021 yn cynnig cymaint mwy – cyhoeddiadau print ac arlein, gwefannau, cynnwys ar gyfer ffonau symudol a thrafodaethau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Mae Trobwynt: Diffusion 2021 yn edrych tuag at ddyfodol ar ôl y pandemig drwy ddarparu platfform i leisiau artistig newydd a phrofiadau diwylliannol amrywiol, a model newydd o gydweithio sy’n darparu mis o ddigwyddiadau ffotograffiaeth yng Nghymru a chanddynt ymestyniad ac effaith rhyngwladol. Gan gyfuno gwaith wedi ei gyd-greu a’i gyflwyno ar-lein ac yn ffisegol, mae Turning Point: Diffusion 2021 yn dathlu ac yn rhoi lle blaenllaw i gyfoeth ac amrywiaeth daearyddol, diwylliannol a chymdeithasol y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd mawr a chyfle newydd.

029 2034 1667

Llun - Gwener, 9.30am - 5pm

Partneriaid ac Ariannwyr

Menter gan Ffotogallery yw Diffusion a wnaed yn bosibl gan gefnogaeth hael a phartneriaeth nifer o unigolion a sefydliadau. Carem ddiolch i bawb sydd yn gweithio tuag at gyflawni Diffusion 2021.